Darganfod twyni ar Lwybr Arfordir Cymru
Dod o hyd i dwyni tywod ar y llwybr
Dysgu am dwyni deinamig ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Mae'n debyg y byddwch wedi pasio ychydig o dwyni tywod ar eich taith gerdded ar lwybr. Mae'r llwybr yn plethu heibio llawer o dwyni tywod o bwys rhyngwladol yng Nghymru. Darllenwch ymlaen i ddarganfod pam eu bod mor bwysig i fywyd gwyllt a sut y gallwch eu mwynhau pan fyddwch yn ym weld â'r llwybr.
Hafan bywyd gwyllt y tywod
Mae twyni tywod yn ecosystemau naturiol hynod ddiddorol ac yn gartref i amrywiaeth enfawr o blanhigion ac anifeiliaid. Wrth deithio ar hyd Llwybr Arfordir Cymru efallai y cewch eich amgylchynu gan fryniau tywodlyd trawiadol neu laswelltiroedd llawn blodau, a rhyngddynt y mae pantiau twyni corsiog (llaciau twyni), sy'n nodweddiadol o'n twyni yng Nghymru.
Mae gan daith gerdded yn y twyni rywbeth i bawb – p'un a ydych chi'n chwilio am le i ymlacio, darganfod ein treftadaeth ddiwylliannol neu weld bywyd gwyllt prin.
Mae twyni tywod yn fannau poblogaidd i fywyd gwyllt lle gellir dod o hyd i blanhigion fel tegeirian y gors a thrilliw’r twyni ochr yn ochr ag ehedyddion, glöynnod byw, gwenyn turio prin a phryfed eraill sydd mewn perygl.
Yn gudd yn yr is-dyfiant efallai y sylwch ar ambell fadfall neu lyffant, ac i lawr ar y draethlin efallai welwch chi gasyn wy siarc sydd wedi’i fwrw i’r traeth gan forynnau.
Er eu bod wedi’u gwarchod yn gyfreithiol fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, mae twyni tywod wedi’u rhestru fel y cynefin sydd fwyaf mewn perygl yn Ewrop o ran colli bioamrywiaeth, ac mae bywyd gwyllt prin yn dal i ddiflannu.
Rheoli tirwedd ddeinamig
Dros y blynyddoedd mae llawer o dwyni wedi dod yn rhy sefydlog ac nid yw tywod bellach yn gallu symud yn rhydd. Achoswyd y newid hwn gan ffactorau fel pori annigonol gan dda byw a chwningod, newid yn yr hinsawdd, llygredd aer a rhywogaethau estron goresgynnol.
Mae llai o gyflenwad o dywod, coedwigaeth a gwaith sefydlogi yn y gorffennol (megis codi ffensys a phlannu glaswellt moresg) hefyd wedi chwarae rhan.
Er mwyn hyrwyddo’r gwaith o adfer ac adfywio twyni tywod, mae rheolwyr safleoedd a phrosiectau fel Twyni ar Symud a Thwyni Byw, yn defnyddio ystod o dechnegau rheoli gweithredol, fel clirio prysgwydd, tynnu tyweirch ac ail-broffilio.
Gwyliwch y fideo i weld sut mae twyni tywod yn cael eu rheoli
Ym mhle allwch chi ddod o hyd i dwyni ar y llwybr
Rydym wedi llunio rhestr o deithiau twyni tywod sy’n mynd â chi’n agos at y dirwedd unigryw hon ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Gallwch ddefnyddio’r llwybr i grwydro twyni Cymru unrhyw adeg o’r flwyddyn. Maen nhw’n lleoedd gwych ar gyfer picnic a chwarae ond cofiwch ystyried bywyd gwyllt hardd y twyni.
Byddwch yn gyfrifol a chadwch at y Cod Cefn Gwlad gan gynnwys gwaredu sbwriel yn hytrach na’i ollwng a chadwch gŵn dan reolaeth. Cadwch lygad am arwyddion a dilynwch unrhyw ganllawiau lleol.
Beth am aros a gorffwyso am ychydig, gwrando ar gân yr ehedydd a gwerthfawrogi’r olygfa? Mae gan dwyni lawer iawn i’w gynnig.
Adnoddau am dwyni
Mae llawer o adnoddau am ddim isod i’ch helpu i fwynhau’ch ymweliad â’r twyni.
Dysgwch am rai o’r twyni ar hyd llwybr yr arfordir cyn ymweld â’r gwefannau a ganlyn Twyni ar Symud a Twyni Byw.
Darllenwch ffeithiau a ffigurau diddorol am dwyni tywod ac edrychwch ar y fideos Twyni ar Symud
Lawlwythwch Becynnau Gweithgaredd Twyni i gyrchu gweithgareddau teuluol fel mi wela’ i gyda fy llygaid bach i ar y twyni, croeseiriau a dylunio dy anifail twyni dy hun – perffaith i fynd gyda chi ar eich teithiau cerdded.
Yn galw ar bob addysgwr
Mae gweithgareddau eraill ar gyfer plant a myfyrwyr ysgol ar gael o’r gwefannau canlynol Twyni ar Symud a Thwyni Byw
Ynglŷn â’r Prosiectau
Ysgrifennwyd ein blog gwadd mewn cydweithrediad â phrosiect Twyni ar Symud a Thwyni Byw.
Mae Twyni ar Symud yn brosiect ledled Cymru a Lloegr a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r rhaglen LIFE Ewropeaidd. Cyflwynwyd y gwaith mewn partneriaeth gyda Natural England, Plantlife, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaethau Natur ochr yn ochr â grwpiau lleoliad eraill a thirfeddianwyr preifat.
Mae Twyni Byw yn brosiect mawr dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, a ariennir gan raglen Life Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn adfer ac adnewyddu twyni tywod o fewn pedair Ardal Cadwraeth Arbennig yng Nghymru.
Diolch i'r timau Twyni ar Symud a Thwyni Byw am ein cyfraniad i'r blog hwn.